Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 8

8
1Fel hyn y dangosodd fy Arglwydd Iafe imi —
Cawell o ffrwythydd haf;
2A dywedodd, “Beth a weli di, Amos?”
Dywedais innau, “Cawell o ffrwythydd haf#8:2 ffrwythydd haf Heb. caits.”
Yna dywedodd Iafe wrthyf,
“Daeth y diwedd#8:2 Heb. cêts ar fy mhobl Israel,
Nid af heibio iddynt byth mwy;
3A thry caniadau’r plas yn udo
Y dydd hwnnw,” medd fy Arglwydd Iafe.
Bwriodd allan aml gelain, ym mhob man — Ust!
4Clywch hyn, y rhai sy’n mathru’r tlawd,
Gan ddistrywio rhai gwasgedig y tir,
5A dywedyd “Pa bryd yr â’r Newyddloer heibio,
Fel y gwerthom yd?
A’r Sabath, fel yr agorom farchnad rawn?”
— Gan leihau mesur a helaethu pwysau
A gŵyrdroi cloriannau twyllodrus;
6Gan brynu’r gweiniaid am arian,
A’r tlawd er pâr o sandalau —
“Ac y gwerthom wehilion grawn?”
7Tyngodd Iafe “Myn godidowgrwydd Iacob
Nid anghofiaf byth eu holl weithredoedd.”
8Oni chryn y ddaear am hyn?
Ie, galara pob trigiennydd arni,
Cyfyd hithau yn ei chrynswth fel yr Afon,
Ac ymchwydda ac ymsudda fel Afon yr Aifft.
9“A’r dydd hwnnw,” medd fy Arglwydd Iafe,
“Paraf ymachlud o’r haul ganol dydd,
A pharaf dywyllwch ar y ddaear gefn dydd goleu;
10A throf eich pererindodau yn alar,
A’ch holl gerddi yn farwnad;
Dygaf hefyd sachlïain ar yr holl lwynau,
A moelni ar bob pen;
A gosodaf ef fel galar am uniganedig,
A’i ddiwedd fel dydd chwerw.”
11“Wele ddyddiau’n dyfod,” medd fy Arglwydd Iafe,
“Yr anfonaf newyn ar y wlad,
Nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr,
Ond am glywed geiriau#8:11 geiriau Rhai Ll. gair Iafe.”
12Yna ymlusgant o fôr i fôr,
A gwibiant o’r gogledd i’r dwyrain,
I geisio gair Iafe, ac nis cânt.
13Y dydd hwnnw llewyga’r gwyryfon glân,
A’r gwŷr ifainc, gan syched,
14Y rhai sy’n tyngu drwy euogrwydd Samaria,
Ac yn dywedyd “Myn dy Dduw, Dan,”
A “Myn ffordd Beerseba.”
Ie, syrthiant ac ni chyfodant mwy.

Dewis Presennol:

Amos 8: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda