Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 7

7
1Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Dareius y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, ar y pedwerydd dydd o’r nawfed mis, sef Cisleu; 2Pan anfonasent Sereser, a Regemmelech, a’u gwŷr, i dŷ Dduw, i weddïo gerbron yr Arglwydd, 3Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ Arglwydd y lluoedd, ac wrth y proffwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi y pumed mis, gan ymneilltuo, fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd?
4Yna gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 5Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru, Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a’r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi? 6A phan fwytasoch, a phan yfasoch, onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain? 7Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy law y proffwydi gynt, pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a’i dinasoedd o’i hamgylch, a phobl yn cyfanheddu y deheudir a’r dyffryndir?
8A daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, gan ddywedyd, 9Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gywir, gwnewch drugaredd a thosturi bob un i’w frawd: 10Ac na orthrymwch y weddw a’r amddifad, y dieithr a’r anghenog; ac na feddyliwch ddrwg bob un i’w gilydd yn eich calonnau. 11Er hyn gwrthodasant wrando, a rhoddasant ysgwydd anhydyn, a thrymhasant eu clustiau rhag clywed. 12Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant, rhag clywed y gyfraith a’r geiriau a anfonodd Arglwydd y lluoedd trwy ei ysbryd, yn llaw y proffwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth Arglwydd y lluoedd. 13A bu, megis y galwodd efe, ac na wrandawent hwy; felly y galwasant hwy, ac nis gwrandawn innau, medd Arglwydd y lluoedd. 14Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a’r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a’i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffeithwch.

Dewis Presennol:

Sechareia 7: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda