Sechareia 12
12
1Baich gair yr Arglwydd i Israel, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio ysbryd dyn ynddo. 2Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i’r bobloedd oll o amgylch, pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Jerwsalem.
3A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i’r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef, yn ddiau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef. 4Y diwrnod hwnnw, medd yr Arglwydd, y trawaf bob march â syndra, a’i farchog ag ynfydrwydd; ac agoraf fy llygaid ar dŷ Jwda, a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb. 5A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.
6Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem. 7Yr Arglwydd a geidw bebyll Jwda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerwsalem, yn erbyn Jwda. 8Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr Arglwydd breswylwyr Jerwsalem: a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thŷ Dafydd fydd fel Duw, fel angel yr Arglwydd o’u blaen hwynt.
9Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem. 10A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig. 11Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem, megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon. 12A’r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun; teulu tŷ Dafydd wrtho ei hun, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; 13Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Simei wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; 14Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun, a’u gwragedd wrthynt eu hunain.
Dewis Presennol:
Sechareia 12: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.