A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan allan o’i garchar; Ac efe a â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr. A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac a amgylchasant wersyll y saint, a’r ddinas annwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o’r nef, ac a’u hysodd hwynt. A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan, lle y mae’r bwystfil a’r gau broffwyd; a hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd.
Darllen Datguddiad 20
Gwranda ar Datguddiad 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Datguddiad 20:7-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos