Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 83

83
SALM 83
Cân neu Salm Asaff.
1O Dduw, na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw.
2Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau.
3Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di.
4Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
5Canys ymgyngorasant yn unfryd; ac ymwnaethant i’th erbyn;
6Pebyll Edom, a’r Ismaeliaid; y Moabiaid, a’r Hagariaid;
7Gebal, ac Ammon, ac Amalec; y Philistiaid, gyda phreswylwyr Tyrus.
8Assur hefyd a ymgyplysodd â hwynt: buant fraich i blant Lot. Sela.
9Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison:
10Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i’r ddaear.
11Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Seeb; a’u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna:
12Y rhai a ddywedasant, Cymerwn i ni gyfanheddau Duw i’w meddiannu.
13Gosod hwynt, O fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.
14Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd;
15Felly erlid di hwynt â’th dymestl, a dychryna hwynt â’th gorwynt.
16Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O Arglwydd.
17Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt:
18Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.

Dewis Presennol:

Y Salmau 83: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda