Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 69:1-15

Y Salmau 69:1-15 BWM

Achub fi, O DDUW, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid. Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof. Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy NUW. Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a’m casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a’m difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais. O DDUW, ti a adwaenost fy ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot. Na chywilyddier o’m plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd DDUW y lluoedd: na waradwydder o’m plegid i y rhai a’th geisiant di, O DDUW Israel. Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb. Euthum yn ddieithr i’m brodyr, ac fel estron gan blant fy mam. Canys sêl dy dŷ a’m hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi. Pan wylais, gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi. Gwisgais hefyd sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt. Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd. Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O ARGLWYDD, mewn amser cymeradwy: O DDUW, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth. Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion. Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.