Clyw, O DDUW, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi. O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi. Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn. Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela. Canys ti, DDUW, a glywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw. Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer. Efe a erys byth gerbron DUW; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef. Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.
Darllen Y Salmau 61
Gwranda ar Y Salmau 61
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 61:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos