Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 60

60
SALM 60
I’r Pencerdd ar Susan-eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Soba, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen.
1O Dduw, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn.
2Gwnaethost i’r ddaear grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu.
3Dangosaist i’th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod.
4Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela.
5Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.
6 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
7Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr.
8Moab yw fy nghrochan golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i.
9Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m harwain hyd yn Edom?
10Onid tydi, Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith? a thydi, O Dduw, yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd?
11Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn.
12Yn Nuw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.

Dewis Presennol:

Y Salmau 60: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda