Y Salmau 39
39
SALM 39
Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i Jedwthwn.
1Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg.
2Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd.
3Gwresogodd fy nghalon o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod.
4 Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi.
5Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela.
6Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl.
7Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O Arglwydd? fy ngobaith sydd ynot ti.
8Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd.
9Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.
10Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i.
11Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela.
12Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau.
13Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.
Dewis Presennol:
Y Salmau 39: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.