Yr ARGLWYDD a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef. Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr ARGLWYDD sydd yn ei gynnal ef â’i law. Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na’i had yn cardota bara. Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir. Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd. Canys yr ARGLWYDD a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith. Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd. Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn. Deddf ei DDUW sydd yn ei galon ef; a’i gamre ni lithrant. Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef. Ni ad yr ARGLWYDD ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner. Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli. Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd. Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael. Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd. Ond y troseddwyr a gyd-ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith. A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD: efe yw eu nerth yn amser trallod. A’r ARGLWYDD a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.
Darllen Y Salmau 37
Gwranda ar Y Salmau 37
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 37:23-40
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos