Yr ARGLWYDD sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd. Cyngor yr ARGLWYDD a saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth. Gwyn ei byd y genedl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun. Yr ARGLWYDD sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion. O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear. Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd. Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder. Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder. Wele, y mae llygad yr ARGLWYDD ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef; I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn. Ein henaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD: efe yw ein porth a’n tarian. Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef. Bydded dy drugaredd, ARGLWYDD, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.
Darllen Y Salmau 33
Gwranda ar Y Salmau 33
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 33:10-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos