Barn fi, ARGLWYDD; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr ARGLWYDD: am hynny ni lithraf. Hola fi, ARGLWYDD, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon. Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd. Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af. Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf. Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O ARGLWYDD, a amgylchynaf: I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau. ARGLWYDD, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant. Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd: Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau. Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf. Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O ARGLWYDD.
Darllen Y Salmau 26
Gwranda ar Y Salmau 26
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 26:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos