Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Clodforwch DDUW y duwiau: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd. Clodforwch ARGLWYDD yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd. Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd. Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd: Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd: Y lleuad a’r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
Darllen Y Salmau 136
Gwranda ar Y Salmau 136
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 136:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos