Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 121

121
SALM 121
Caniad y graddau.
1Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth.
2Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
3Ni ad efe i’th droed lithro: ac ni huna dy geidwad.
4Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel.
5Yr Arglwydd yw dy geidwad: yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw.
6Ni’th dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos.
7Yr Arglwydd a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.
8Yr Arglwydd a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 121: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda