Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 29

29
1Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei war, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo meddyginiaeth. 2Pan amlhaer y cyfiawn, y bobl a lawenychant: ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu, y bobl a ocheneidia. 3Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dad: ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid, a ddifa ei dda. 4Brenin trwy farn a gadarnha y wlad: ond y neb a garo anrhegion, a’i dinistria hi. 5Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog, sydd yn taenu rhwyd i’w draed ef. 6Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl: ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen. 7Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion: ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod. 8Dynion gwatwarus a faglant ddinas: ond y doethion a droant ymaith ddigofaint. 9Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl, pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin, eto ni bydd llonyddwch. 10Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn: ond yr uniawn a gais ei enaid ef. 11Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a’i hatal hyd yn ôl. 12Os llywydd a wrendy ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol. 13Y tlawd a’r twyllodrus a gydgyfarfyddant; a’r Arglwydd a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau. 14Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon, ei orsedd a sicrheir byth. 15Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam. 16Pan amlhao y rhai annuwiol, yr amlha camwedd: ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy. 17Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i’th enaid. 18Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fyd ef. 19Ni chymer gwas addysg ar eiriau: canys er ei fod yn deall, eto nid etyb. 20A weli di ddyn prysur yn ei eiriau? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef. 21Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o’i febyd, o’r diwedd efe a fydd fel mab iddo. 22Gŵr dicllon a ennyn gynnen; a’r llidiog sydd aml ei gamwedd. 23Balchder dyn a’i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd. 24Y neb a fo cyfrannog â lleidr, a gasâ ei enaid ei hun: efe a wrendy ar felltith, ac nis mynega. 25Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd a ddyrchefir. 26Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae barn pob dyn. 27Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd.

Dewis Presennol:

Diarhebion 29: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd