Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef. Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb. Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt. Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau. Cyfiawnder y perffaith a’i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus. Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni. Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir. Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei le ef. Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth. Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd. Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi. Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn. Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth. Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch. Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel.
Darllen Diarhebion 11
Gwranda ar Diarhebion 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 11:1-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos