Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 9

9
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aifft, ar y mis cyntaf, gan ddywedyd, 2Cadwed meibion Israel y Pasg hefyd yn ei dymor. 3Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn, yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei dymor: yn ôl ei holl ddeddfau, ac yn ôl ei holl ddefodau, y cedwch ef. 4A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasg. 5A chadwasant y Pasg ar y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
6Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasg ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant gerbron Moses, a cherbron Aaron, ar y dydd hwnnw. 7A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff dyn marw: paham y’n gwaherddir rhag offrymu offrwm i’r Arglwydd yn ei dymor ymysg meibion Israel? 8A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchmynno’r Arglwydd o’ch plegid.
9A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 10Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorff marw, neu neb ohonoch neu o’ch hiliogaeth mewn ffordd bell, eto cadwed Basg i’r Arglwydd. 11Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis, yn y cyfnos, y cadwant ef: ynghyd â bara croyw a dail chwerwon y bwytânt ef. 12Na weddillant ddim ohono hyd y bore, ac na thorrant asgwrn ohono: yn ôl holl ddeddf y Pasg y cadwant ef. 13A’r gŵr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasg, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymor: ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw. 14A phan ymdeithio dieithr gyda chwi, ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd; fel y byddo deddf y Pasg a’i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i’r dieithr ac i’r un fydd â’i enedigaeth o’r wlad.
15Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmwl a gaeodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore. 16Felly yr ydoedd yn wastadol; y cwmwl a gaeai amdano y dydd, a’r gwelediad tân y nos. 17A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynnai meibion Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel. 18Wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnai meibion Israel, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent: yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmwl ar y tabernacl, yr arhosent yn y gwersyll. 19A phan drigai y cwmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, ac ni chychwynnent. 20Ac os byddai’r cwmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl, wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnent. 21Hefyd os byddai’r cwmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o’r cwmwl y bore, hwythau a symudent: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai’r cwmwl, yna y cychwynnent. 22Os deuddydd, os mis, os blwyddyn fyddai, tra y trigai’r cwmwl ar y tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynnent: ond pan godai efe, y cychwynnent. 23Wrth air yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth air yr Arglwydd y cychwynnent: felly y cadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses.

Dewis Presennol:

Numeri 9: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda