Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 28

28
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymu i mi fy offrwm, a’m bara i’m hebyrth tanllyd, o arogl peraidd yn eu tymor. 3A dywed wrthynt, Dyma yr aberth tanllyd a offrymwch i’r Arglwydd. Dau oen blwyddiaid perffaith-gwbl, bob dydd, yn boethoffrwm gwastadol. 4Un oen a offrymi di y bore, a’r oen arall a offrymi di yn yr hwyr; 5A degfed ran effa o beilliaid yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew coethedig. 6Dyma y poethoffrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd. 7A’i ddiod-offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen: pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod-offrwm i’r Arglwydd, yn y cysegr. 8Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr: megis bwyd-offrwm y bore, a’i ddiod-offrwm yr offrymi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
9Ac ar y dydd Saboth, dau oen blwyddiaid, perffaith-gwbl, a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, a’i ddiod-offrwm. 10Dyma boethoffrwm pob Saboth, heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i ddiod-offrwm.
11Ac ar ddechrau eich misoedd yr offrymwch, yn boethoffrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, perffaith-gwbl; 12A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob hwrdd; 13A phob yn ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob oen, yn offrwm poeth o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd. 14A’u diod-offrwm fydd hanner hin gyda bustach, a thrydedd ran hin gyda hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gydag oen. Dyma boethoffrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn. 15Ac un bwch geifr fydd yn bech-aberthi’r Arglwydd: heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef, a’i ddiod-offrwm.
16Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd Pasg yr Arglwydd. 17Ac ar y pymthegfed dydd o’r mis hwn y bydd yr ŵyl: saith niwrnod y bwyteir bara croyw. 18Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: na wnewch ddim caethwaith ynddo. 19Ond offrymwch yn aberth tanllyd, ac yn boethoffrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant gennych yn berffaith-gwbl. 20Eu bwyd-offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew: tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd, a offrymwch chwi; 21Bob yn ddegfed ran yr offrymwch gyda phob oen, o’r saith oen: 22Ac un bwch yn bech-aberth, i wneuthur cymod drosoch. 23Heblaw poethoffrwm y bore, yr hwn sydd boethoffrwm gwastadol, yr offrymwch hyn. 24Fel hyn yr offrymwch ar bob dydd o’r saith niwrnod, fwyd-aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd: heblaw y poethoffrwm gwastadol yr offrymir ef, a’i ddiod-offrwm. 25Ac ar y seithfed dydd cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch.
26Ac ar ddydd eich blaenffrwythau, pan offrymoch fwyd-offrwm newydd i’r Arglwydd, wedi eich wythnosau, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch. 27Ond offrymwch ddau fustach ieuainc un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boethoffrwm, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 28A bydded eu bwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd; 29Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: 30Un bwch geifr, i wneuthur cymod drosoch. 31Heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, yr offrymwch hyn, (byddant gennych yn berffaith-gwbl,) ynghyd â’u diod-offrwm.

Dewis Presennol:

Numeri 28: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda