Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 24

24
1Pan welodd Balaam mai da oedd yng ngolwg yr Arglwydd fendithio Israel; nid aeth efe, megis o’r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tua’r anialwch. 2A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel yn pebyllio yn ôl ei lwythau: a daeth ysbryd Duw arno ef. 3Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gŵr a agorwyd ei lygaid, a ddywedodd; 4Gwrandawydd geiriau Duw a ddywedodd yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd ei lygaid: 5Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Jacob! dy gyfanheddau di, O Israel! 6Ymestynnant fel dyffrynnoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd a blannodd yr Arglwydd, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd. 7Efe a dywallt ddwfr o’i ystenau, a’i had fydd mewn dyfroedd lawer, a’i frenin a ddyrchefir yn uwch nag Agag, a’i frenhiniaeth a ymgyfyd. 8Duw a’i dug ef allan o’r Aifft; megis nerth unicorn sydd iddo: efe a fwyty y cenhedloedd ei elynion, ac a ddryllia eu hesgyrn, ac â’i saethau y gwana efe hwynt. 9Efe a gryma, ac a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a’i cyfyd ef? Bendigedig fydd dy fendithwyr, a melltigedig dy felltithwyr.
10Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a drawodd ei ddwylo ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regi fy ngelynion y’th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a’u bendithiaist y tair gwaith hyn. 11Am hynny yn awr ffo i’th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y’th anrhydeddwn; ac wele, ataliodd yr Arglwydd di oddi wrth anrhydedd. 12A dywedodd Balaam wrth Balac, Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist ataf, gan ddywedyd, 13Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn droseddu gair yr Arglwydd, i wneuthur da neu ddrwg o’m meddwl fy hun: yr hyn a lefaro yr Arglwydd, hynny a lefaraf fi? 14Ond yr awr hon, wele fi yn myned at fy mhobl: tyred, mi a fynegaf i ti yr hyn a wna’r bobl hyn i’th bobl di yn y dyddiau diwethaf.
15Ac efe a gymerth ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gŵr a agorwyd ei lygaid a ddywed; 16Dywedodd gwrandawydd geiriau Duw, gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac yr agorwyd ei lygaid: 17Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw seren o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel, ac a ddryllia gonglau Moab, ac a ddinistria holl feibion Seth. 18Ac Edom a feddiennir, Seir hefyd a berchenogir gan ei elynion; ac Israel a wna rymuster. 19Ac arglwyddiaetha un o Jacob, ac a ddinistria y gweddill o’r ddinas. 20A phan edrychodd ar Amalec, efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Dechrau y cenhedloedd yw Amalec; a’i ddiwedd fydd darfod amdano byth. 21Edrychodd hefyd ar y Ceneaid; ac a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Cadarn yw dy annedd; gosod yr wyt dy nyth yn y graig. 22Anrheithir y Ceneaid, hyd oni’th gaethiwo Assur. 23Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo Duw hyn? 24Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymant Assur, ac a orthrymant Eber; ac yntau a dderfydd amdano byth. 25A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i’w ffordd yntau.

Dewis Presennol:

Numeri 24: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda