Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nehemeia 10

10
1A’r rhai a seliodd oedd, Nehemeia y Tirsatha, mab Hachaleia, a Sidcia, 2Seraia, Asareia, Jeremeia, 3Pasur, Amareia, Malcheia, 4Hattus, Sebaneia, Maluch, 5Harim, Meremoth, Obadeia, 6Daniel, Ginnethon, Baruch, 7Mesulam, Abeia, Miamin, 8Maaseia, Bilgai, Semaia: dyma yr offeiriaid. 9A’r Lefiaid: Jesua mab Asaneia, Binnui o feibion Henadad, Cadmiel; 10A’u brodyr hwynt; Sebaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Hanan, 11Micha, Rehob, Hasabeia, 12Saccur, Serebeia, Sebaneia, 13Hodeia, Bani, Beninu. 14Penaethiaid y bobl; Paros, Pahath-moab, Elam, Sattu, Bani, 15Bunni, Asgad, Bebai, 16Adoneia, Bigfai, Adin, 17Ater, Hisceia, Assur, 18Hodeia, Hasum, Besai, 19Hariff, Anathoth, Nebai, 20Magpias, Mesulam, Hesir, 21Mesesabeel, Sadoc, Jadua, 22Pelatia, Hanan, Anaia, 23Hosea, Hananeia, Hasub, 24Halohes, Pileha, Sobec, 25Rehum, Hasabna, Maaseia, 26Ac Ahïa, Hanan, Anan, 27Maluch, Harim, Baana.
28A’r rhan arall o’r bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, y Nethiniaid, a phawb a’r a ymneilltuasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith Dduw, eu gwragedd hwynt, eu meibion, a’u merched, pawb a’r a oedd â gwybodaeth ac â deall ganddo; 29Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu penaethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith Dduw, yr hon a roddasid trwy law Moses gwas Duw: ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr Arglwydd ein Harglwydd ni, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau: 30Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad: ac na chymerem eu merched hwy i’n meibion ni: 31Ac o byddai pobl y tir yn dwyn marchnadoedd, neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i’w werthu, na phrynem ddim ganddynt ar y Saboth, neu ar y dydd sanctaidd; ac y gadawem heibio y seithfed flwyddyn, a chodi pob dyled. 32A ni a osodasom arnom ddeddfau, ar i ni roddi traean sicl yn y flwyddyn, tuag at wasanaeth tŷ ein Duw ni, 33A thuag at y bara gosod, a’r bwyd-offrwm gwastadol, a thuag at y poethoffrwm gwastadol, y Sabothau, y newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, a thuag at y cysegredig bethau, a thuag at y pech-ebyrth, i wneuthur cymod dros Israel; a thuag at holl waith tŷ ein Duw. 34A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r bobl, am goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i dŷ ein Duw ni, yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedig, o flwyddyn i flwyddyn, i’w llosgi ar allor yr Arglwydd ein Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith: 35Ac i ddwyn blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren, o flwyddyn i flwyddyn, i dŷ yr Arglwydd: 36A’r rhai cyntaf-anedig o’n meibion, ac o’n hanifeiliaid, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith, a chyntaf-anedigion ein gwartheg a’n defaid, i’w dwyn i dŷ ein Duw, at yr offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein Duw ni. 37A blaenion ein toes, a’n hoffrymau, a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein Duw, a degwm ein tir i’r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni. 38A bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda’r Lefiaid, pan fyddo’r Lefiaid yn degymu: a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed ran y degwm i dŷ ein Duw ni, i’r celloedd yn y trysordy. 39Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, i’r ystafelloedd, lle y mae llestri’r cysegr, a’r offeiriaid sydd yn gweini, a’r porthorion, a’r cantorion; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein Duw.

Dewis Presennol:

Nehemeia 10: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda