Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o’r blaen, gan fyned i fyny i Jerwsalem. Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania, i’r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, Gan ddywedyd, Ewch i’r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma. Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho. A’r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt. Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol? A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ef. A hwy a’i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno. Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd. Ac weithian, ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent; Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf. A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai’r rhai hyn, y llefai’r cerrig yn y fan.
Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti