Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 19:28-41

Luc 19:28-41 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar ôl dweud y stori, aeth Iesu yn ei flaen i gyfeiriad Jerwsalem. Pan oedd ar fin cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, dwedodd wrth ddau o’i ddisgyblion, “Ewch i’r pentref acw sydd o’ch blaen. Wrth fynd i mewn iddo, dewch o hyd i ebol wedi’i rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o’r blaen. Dewch â’r ebol i mi. Os bydd rhywun yn gofyn, ‘Pam dych chi’n ei ollwng yn rhydd?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae’r meistr ei angen.’” Felly i ffwrdd â’r ddau ddisgybl; a dyna lle roedd yr ebol yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd, dyma’r rhai oedd biau’r ebol yn dweud, “Hei! Beth ydych chi’n ei wneud?” “Mae’r meistr ei angen,” medden nhw. Pan ddaethon nhw â’r ebol at Iesu dyma nhw’n taflu’u cotiau drosto, a dyma Iesu’n eistedd ar ei gefn. Wrth iddo fynd yn ei flaen, dyma bobl yn rhoi eu cotiau fel carped ar y ffordd. Pan gyrhaeddon nhw’r fan lle mae’r ffordd yn mynd i lawr o Fynydd yr Olewydd, dyma’r dyrfa oedd yn dilyn Iesu yn dechrau gweiddi’n uchel a chanu mawl i Dduw o achos yr holl wyrthiau rhyfeddol roedden nhw wedi’u gweld: “Mae’r Brenin sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr! ” “Heddwch yn y nefoedd a chlod i Dduw yn y goruchaf!” Ond dyma ryw Phariseaid oedd yn y dyrfa yn troi at Iesu a dweud, “Athro, cerydda dy ddisgyblion am ddweud y fath bethau!” Atebodd Iesu, “Petaen nhw’n tewi, byddai’r cerrig yn dechrau gweiddi.” Wrth iddyn nhw ddod yn agos at Jerwsalem dyma Iesu yn dechrau crio wrth weld y ddinas o’i flaen.

Luc 19:28-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi dweud hyn aeth rhagddo ar ei ffordd i fyny i Jerwsalem, gan gerdded ar y blaen. Pan gyrhaeddodd yn agos i Bethffage a Bethania, ger y mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion gan ddweud, “Ewch i'r pentref gyferbyn. Wrth ichwi ddod i mewn iddo cewch yno ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. Ac os bydd rhywun yn gofyn i chwi, ‘Pam yr ydych yn ei ollwng?’, dywedwch fel hyn: ‘Y mae ar y Meistr ei angen.’ ” Aeth y rhai a anfonwyd, a chael yr ebol, fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt. Pan oeddent yn gollwng yr ebol, meddai ei berchenogion wrthynt, “Pam yr ydych yn gollwng yr ebol?” Atebasant hwythau, “Y mae ar y Meistr ei angen,” a daethant ag ef at Iesu. Yna taflasant eu mentyll ar yr ebol, a gosod Iesu ar ei gefn. Wrth iddo fynd yn ei flaen, yr oedd pobl yn taenu eu mentyll ar y ffordd. Pan oedd yn nesáu at y ffordd sy'n disgyn o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd holl dyrfa ei ddisgyblion yn eu llawenydd foli Duw â llais uchel am yr holl wyrthiau yr oeddent wedi eu gweld, gan ddweud: “Bendigedig yw'r un sy'n dod yn frenin yn enw'r Arglwydd; yn y nef, tangnefedd, a gogoniant yn y goruchaf.” Ac meddai rhai o'r Phariseaid wrtho o'r dyrfa, “Athro, cerydda dy ddisgyblion.” Atebodd yntau, “Rwy'n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi.” Pan ddaeth yn agos a gweld y ddinas, wylodd drosti

Luc 19:28-41 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o’r blaen, gan fyned i fyny i Jerwsalem. Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania, i’r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, Gan ddywedyd, Ewch i’r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma. Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho. A’r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt. Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol? A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ef. A hwy a’i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno. Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd. Ac weithian, ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent; Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf. A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai’r rhai hyn, y llefai’r cerrig yn y fan. Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti