Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 8

8
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Cymer Aaron a’i feibion gydag ef, a’r gwisgoedd, ac olew yr eneiniad, a bustach yr aberth dros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw: 3A chasgl yr holl gynulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod. 4A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod. 5A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur. 6A Moses a ddug Aaron a’i feibion, ac a’u golchodd hwynt â dwfr. 7Ac efe a roddes amdano ef y bais, ac a’i gwregysodd ef â’r gwregys, ac a wisgodd y fantell amdano, ac a roddes yr effod amdano, ac a’i gwregysodd â gwregys cywraint yr effod, ac a’i caeodd amdano ef. 8Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a roddes yr Urim a’r Thummim yn y ddwyfronneg. 9Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchmynasai’r Arglwydd i Moses. 10A Moses a gymerodd olew yr eneiniad, ac a eneiniodd y tabernacl, a’r hyn oll oedd ynddo; ac a’u cysegrodd hwynt. 11Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith, ac a eneiniodd yr allor a’i holl lestri, a’r noe hefyd a’i throed, i’w cysegru. 12Ac efe a dywalltodd o olew’r eneiniad ar ben Aaron, ac a’i heneiniodd ef, i’w gysegru. 13A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau amdanynt, a gwregysodd hwynt â gwregysau, ac a osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses. 14Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylo ar ben bustach yr aberth dros bechod; 15Ac efe a’i lladdodd: a Moses a gymerth y gwaed, ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a’i cysegrodd hi, i wneuthur cymod arni. 16Efe a gymerodd hefyd yr holl wêr oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u gwêr; a Moses a’i llosgodd ar yr allor. 17A’r bustach, a’i groen, a’i gig, a’i fiswail, a losgodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwersyll: fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
18Ac efe a ddug hwrdd y poethoffrwm: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd: 19Ac efe a’i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch. 20Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a’r gwêr. 21Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor. Poethoffrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses.
22Ac efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cysegriad: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd. 23Ac efe a’i lladdodd; a Moses a gymerodd o’i waed, ac a’i rhoddes ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau. 24Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o’r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau, ac ar fawd eu llaw ddeau, ac ar fawd eu troed deau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch. 25Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr, a’r gloren, a’r holl wêr oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u braster, a’r ysgwyddog ddeau. 26A chymerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd gerbron yr Arglwydd, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a’u gosododd ar y gwêr, ac ar yr ysgwyddog ddeau: 27Ac a roddes y cwbl ar ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion, ac a’u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 28A Moses a’u cymerth oddi ar eu dwylo hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysegriadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r Arglwydd. 29Cymerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: rhan Moses o hwrdd y cysegriad oedd hi; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 30A chymerodd Moses o olew yr eneiniad, ac o’r gwaed oedd ar yr allor, ac a’i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef: ac efe a gysegrodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef.
31A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwytewch ef, a’r bara hefyd sydd yng nghawell y cysegriadau; megis y gorchmynnais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwyty ef. 32A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân. 33Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysegriadau: oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cysegru chwi. 34Megis y gwnaeth efe heddiw, y gorchmynnodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur cymod drosoch. 35Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliadwriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchmynnwyd. 36A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchmynnodd yr Arglwydd trwy law Moses.

Dewis Presennol:

Lefiticus 8: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda