Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 27

27
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan addunedo neb adduned neilltuol, y dynion fydd eiddo yr Arglwydd, yn dy bris di. 3A bydd dy bris, am wryw o fab ugain mlwydd hyd fab trigain mlwydd, ie, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ôl sicl y cysegr. 4Ac os benyw fydd, bydded dy bris ddeg sicl ar hugain. 5Ac o fab pum mlwydd hyd fab ugain mlwydd, bydded dy bris am wryw ugain sicl, ac am fenyw ddeg sicl. 6A bydded hefyd dy bris am wryw o fab misyriad hyd fab pum mlwydd, bum sicl o arian; ac am fenyw dy bris fydd tri sicl o arian. 7Ac o fab trigeinmlwydd ac uchod, os gwryw fydd, bydded dy bris bymtheg sicl, ac am fenyw ddeg sicl. 8Ond os tlotach fydd efe na’th bris di; yna safed gerbron yr offeiriad, a phrisied yr offeiriad ef: yn ôl yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd, felly y prisia’r offeiriad ef.
9Ond os anifail, yr hwn yr offrymir ohono offrwm i’r Arglwydd, fydd ei adduned; yr hyn oll a roddir o’r cyfryw i’r Arglwydd, sanctaidd fydd. 10Na rodded un arall amdano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newidia anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd. 11Ac os adduneda efe un anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymu ohono offrwm i’r Arglwydd; yna rhodded yr anifail i sefyll gerbron yr offeiriad 12A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd: fel y prisiech di yr offeiriad ef, felly y bydd. 13Ac os efe gan brynu a’i prŷn; yna rhodded at dy bris di ei bumed ran yn ychwaneg.
14A phan sancteiddio gŵr ei dŷ yn sanctaidd i’r Arglwydd; yna yr offeiriad a’i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio’r offeiriad ef, felly y saif. 15Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd a ollwng ei dŷ yn rhydd; yna rhodded bumed ran arian dy bris yn ychwaneg ato, a bydded eiddo ef.
16Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i’r Arglwydd; yna bydded dy bris yn ôl ei heuad: heuad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian. 17Os o flwyddyn y jiwbili y sancteiddia efe ei faes, yn ôl dy bris di y saif. 18Ond os wedi’r jiwbili y sancteiddia efe ei faes; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ôl y blynyddoedd fyddant yn ôl, hyd flwyddyn y jiwbili, a lleihaer ar dy bris di. 19Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd gan brynu a brŷn y maes; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg ato, a bydded iddo ef. 20Ac onis gollwng y maes, neu os gwerthodd y maes i ŵr arall; ni cheir ei ollwng mwy. 21A’r maes fydd, pan elo efe allan yn y jiwbili, yn gysegredig i’r Arglwydd, fel maes diofryd: a bydded yn feddiant i’r offeiriad. 22Ac os ei dir prŷn, yr hwn ni bydd o dir ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i’r Arglwydd; 23Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jiwbili; a rhodded yntau dy bris di yn gysegredig i’r Arglwydd, y dydd hwnnw. 24Y maes a â yn ei ôl, flwyddyn y jiwbili, i’r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir. 25A phob pris i ti fydd wrth sicl y cysegr: ugain gera fydd y sicl.
26Ond y cyntaf-anedig o anifail, yr hwn sydd flaenffrwyth i’r Arglwydd, na chysegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr Arglwydd yw efe. 27Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan; yna rhyddhaed ef yn dy bris di, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato: ac onis rhyddha, yna gwerther ef yn dy bris di.
28Ond pob diofryd-beth a ddiofrydo un i’r Arglwydd, o’r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddheir: pob diofryd-beth sydd sancteiddiolaf i’r Arglwydd. 29Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail diofrydog, yr hwn a ddiofryder gan ddyn: lladder yn farw.
30A holl ddegwm y tir, o had y tir, ac o ffrwyth y coed, yr Arglwydd a’u piau: cysegredig i’r Arglwydd yw. 31Ac os gŵr gan brynu a brŷn ddim o’i ddegwm, rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato. 32A phob degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll a elo dan y wialen; y degfed fydd cysegredig i’r Arglwydd. 33Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe, ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gysegredig; ni ellir ei ollwng yn rhydd. 34Dyma’r gorchmynion a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, i feibion Israel, ym mynydd Sinai.

Dewis Presennol:

Lefiticus 27: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda