Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jwdas 1

1
1Jwdas, gwasanaethwr Iesu Grist, a brawd Iago, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad, ac a gadwyd yn Iesu Grist, ac a alwyd: 2Trugaredd i chwi, a thangnefedd, a chariad, a luosoger. 3Anwylyd, pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i’r saint. 4Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i’r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu’r unig Arglwydd Dduw, a’n Harglwydd Iesu Grist. 5Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffáu chwi, gan eich bod unwaith yn gwybod hyn; i’r Arglwydd, wedi iddo waredu’r bobl o dir yr Aifft, ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant. 6Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr. 7Megis y mae Sodom a Gomorra, a’r dinasoedd o’u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol. 8Yr un ffunud hefyd y mae’r breuddwydwyr hyn yn halogi’r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu’r rhai sydd mewn awdurdod. 9Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau â diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi. 10Eithr y rhai hyn sydd yn cablu’r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent. 11Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a’u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a’u difethwyd yng ngwrthddywediad Core. 12Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain: cymylau di-ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio; 13Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; sêr gwibiog, i’r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd. 14Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae’r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o’i saint, 15I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi’r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef. 16Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd. 17Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist; 18Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain. 19Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt. 20Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân, 21Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol. 22A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor: 23Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o’r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd. 24Eithr i’r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a’ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd, 25I’r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

Dewis Presennol:

Jwdas 1: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd