Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 13

13
1A phan heneiddiodd Josua, a phwyso ohono mewn oedran, dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd eto i’w feddiannu. 2Dyma y wlad sydd eto yn ôl: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri, 3O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aifft, hyd derfyn Ecron tua’r gogledd, yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid: y Gasathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid: 4O’r deau, holl wlad y Canaaneaid, a’r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Affec, hyd derfyn yr Amoriaid: 5A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tua chyfodiad haul, o Baal-gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath. 6Holl breswylwyr y mynydd-dir o Libanus hyd Misreffoth-maim, a’r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchmynnais i ti. 7Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasse. 8Gyda’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt; 9O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon: 10A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon; 11Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha; 12Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a’u trawsai hwynt, ac a’u gyrasai ymaith. 13Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn. 14Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.
15A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy eu teuluoedd: 16A’u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba; 17Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-baal, a Beth-baalmeon; 18Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath; 19Ciriathaim hefyd, a Sibma, a Sarethsahar, ym mynydd-dir y glyn; 20Beth-peor hefyd, ac Asdoth-pisga, a Beth-jesimoth, 21A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyda thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.
22Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â’r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt. 23A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefi.
24Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd; 25A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba; 26Ac o Hesbon hyd Ramath-mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir; 27Ac yn y dyffryn, Beth-aram, a Beth-nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a’i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain. 28Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefydd.
29Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd: 30A’u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas; 31A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd. 32Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho, o du y dwyrain. 33Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.

Dewis Presennol:

Josua 13: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda