Jona 2
2
1A Jona a weddïodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fol y pysgodyn, 2Ac a ddywedodd, O’m hing y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a’m hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef. 3Ti a’m bwriaist i’r dyfnder, i ganol y môr; a’r llanw a’m hamgylchodd: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof. 4A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua’th deml sanctaidd. 5Y dyfroedd a’m hamgylchasant hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o’m hamgylch; ymglymodd yr hesg am fy mhen. 6Disgynnais i odre’r mynyddoedd; y ddaear a’i throsolion oedd o’m hamgylch yn dragywydd: eto ti a ddyrchefaist fy einioes o’r ffos, O Arglwydd fy Nuw. 7Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr Arglwydd; a’m gweddi a ddaeth i mewn atat i’th deml sanctaidd. 8Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun. 9A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd.
10A llefarodd yr Arglwydd wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych.
Dewis Presennol:
Jona 2: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.