A Jona a weddïodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW o fol y pysgodyn, Ac a ddywedodd, O’m hing y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a’m hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef. Ti a’m bwriaist i’r dyfnder, i ganol y môr; a’r llanw a’m hamgylchodd: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof. A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua’th deml sanctaidd. Y dyfroedd a’m hamgylchasant hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o’m hamgylch; ymglymodd yr hesg am fy mhen. Disgynnais i odre’r mynyddoedd; y ddaear a’i throsolion oedd o’m hamgylch yn dragywydd: eto ti a ddyrchefaist fy einioes o’r ffos, O ARGLWYDD fy NUW. Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr ARGLWYDD; a’m gweddi a ddaeth i mewn atat i’th deml sanctaidd. Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun. A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD. A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych.
Darllen Jona 2
Gwranda ar Jona 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jona 2:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos