Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 36

36
1Ac Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd, 2Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw. 3O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder. 4Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi. 5Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe. 6Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid. 7Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a’u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir. 8Ac os hwy a rwymir â gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder; 9Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a’u hanwireddau, amlhau ohonynt: 10Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd. 11Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch. 12Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth. 13Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt. 14Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a’u bywyd gyda’r aflan. 15Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder. 16Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster. 17Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot. 18Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod: yna ni’th wared iawn mawr. 19A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth. 20Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle. 21Ymochel, nac edrych ar anwiredd: canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd. 22Wele, Duw trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe? 23Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd? 24Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion. 25Pob dyn a’i gwêl; a dyn a’i cenfydd o bell. 26Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef. 27Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth; 28Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth. 29Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef? 30Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr. 31Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth. 32Efe a guddia y goleuni â chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt. 33Ei dwrf a fynega amdano, a’r anifeiliaid am y tarth.

Dewis Presennol:

Job 36: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda