Job 33
33
1Oherwydd paham, Job, clyw, atolwg, fy ymadroddion; a gwrando fy holl eiriau. 2Wele, yr ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau. 3O uniondeb fy nghalon y bydd fy ngeiriau; a’m gwefusau a adroddant wybodaeth bur. 4Ysbryd Duw a’m gwnaeth i; ac anadl yr Hollalluog a’m bywiocaodd i. 5Os gelli, ateb fi: ymbaratoa, a saf o’m blaen i. 6Wele fi, yn ôl dy ddymuniad di, yn lle Duw: allan o’r clai y torrwyd finnau. 7Wele, ni’th ddychryna fy arswyd i, ac ni bydd fy llaw yn drom arnat. 8Dywedaist yn ddiau lle y clywais i, a myfi a glywais lais dy ymadroddion: 9Pur ydwyf fi heb gamwedd: glân ydwyf, ac heb anwiredd ynof. 10Wele, efe a gafodd achosion yn fy erbyn: y mae efe yn fy nghyfrif yn elyn iddo. 11Y mae yn gosod fy nhraed yn y cyffion; y mae yn gwylied fy holl lwybrau. 12Wele, yn hyn nid ydwyt gyfiawn. Mi a’th atebaf, mai mwy ydyw Duw na dyn. 13Paham yr ymrysoni yn ei erbyn ef? oherwydd nid ydyw efe yn rhoi cyfrif am ddim o’i weithredoedd. 14Canys y mae Duw yn llefaru unwaith, ie, ddwywaith; ond ni ddeall dyn. 15Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely; 16Yna yr egyr efe glustiau dynion, ac y selia efe addysg iddynt: 17I dynnu dyn oddi wrth ei waith, ac i guddio balchder oddi wrth ddyn. 18Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll; a’i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf. 19Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely; a lliaws ei esgyrn ef â gofid caled: 20Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara, a’i enaid fwyd blasus. 21Derfydd ei gnawd ef allan o olwg: saif ei esgyrn allan, y rhai ni welid o’r blaen. 22Nesáu y mae ei enaid i’r bedd, a’i fywyd i’r dinistrwyr. 23Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i ddyn ei uniondeb: 24Yna efe a drugarha wrtho, ac a ddywed, Gollwng ef, rhag disgyn ohono i’r clawdd: myfi a gefais iawn. 25Ireiddiach fydd ei gnawd na bachgen: efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuenctid. 26Efe a weddïa ar Dduw, ac yntau a fydd bodlon iddo; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder. 27Efe a edrych ar ddynion, ac os dywed neb, Mi a bechais, ac a ŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi; 28Efe a wared ei enaid ef rhag myned i’r clawdd, a’i fywyd a wêl oleuni. 29Wele, hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair â dyn, 30I ddwyn ei enaid ef o’r pwll, i’w oleuo â goleuni y rhai byw. 31Gwrando, Job, clyw fi: taw, a mi a lefaraf. 32Od oes geiriau gennyt, ateb fi: llefara, canys chwenychwn dy gyfiawnhau di. 33Onid e, gwrando arnaf fi: bydd ddistaw, a myfi a ddysgaf i ti ddoethineb.
Dewis Presennol:
Job 33: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.