Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 30

30
1Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar, y rhai y diystyraswn eu tadau i’w gosod gyda chŵn fy nefaid. 2I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi? darfuasai am henaint ynddynt hwy. 3Gan angen a newyn, unig oeddynt: yn ffoi i’r anialwch gynt, yn ddiffaith ac yn wyllt: 4Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt. 5Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr;) 6I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau. 7Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl. 8Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na’r ddaear oeddynt. 9Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt. 10Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb. 11Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a’m cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i. 12Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i’m herbyn ffyrdd eu dinistr. 13Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt. 14Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith. 15Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a’m hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwl. 16Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof. 17Y nos y tyllir fy esgyrn o’m mewn: a’m gïau nid ydynt yn gorffwys. 18Trwy fawr nerth fy nghlefyd, fy ngwisg a newidiodd: efe a’m hamgylcha fel coler fy mhais. 19Efe a’m taflodd yn y clai; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw. 20Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthyf. 21Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law. 22Yr wyt yn fy nyrchafu i’r gwynt; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno, ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd. 23Canys myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth; ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw. 24Diau nad estyn ef law i’r bedd, er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef. 25Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd? oni ofidiodd fy enaid dros yr anghenog? 26Pan edrychais am ddaioni, drygfyd a ddaeth: pan ddisgwyliais am oleuni, tywyllwch a ddaeth. 27Fy ymysgaroedd a ferwasant, ac ni orffwysasant: dyddiau cystudd a’m rhagflaenasant. 28Cerddais yn alarus heb yr haul: codais, a gwaeddais yn y gynulleidfa. 29Yr ydwyf yn frawd i’r dreigiau, ac yn gyfaill i gywion yr estrys. 30Fy nghroen a dduodd amdanaf, a’m hesgyrn a losgasant gan wres. 31Aeth fy nhelyn hefyd yn alar, a’m horgan fel llais rhai yn wylo.

Dewis Presennol:

Job 30: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda