Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 10

10
1Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf. 2Dywedaf wrth Dduw, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi. 3Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol? 4Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di? 5A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr, 6Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod? 7Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o’th law di. 8Dy ddwylo di a’m gweithiasant, ac a’m cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt. 9Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i’r pridd drachefn? 10Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws? 11Ti a’m gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a’m diffynnaist i ag esgyrn ac â gïau. 12Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a’th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd. 13A’r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi. 14Os pechaf, ti a’m gwyli, ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd. 15Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd; 16Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi. 17Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i’m herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i’m herbyn. 18Paham gan hynny y dygaist fi allan o’r groth? O na buaswn farw, ac na’m gwelsai llygad! 19Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o’r bru i’r bedd. 20Onid ychydig yw fy nyddiau? paid gan hynny, gad im lonydd, fel yr ymgysurwyf ychydig; 21Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chysgod angau; 22Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.

Dewis Presennol:

Job 10: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda