Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 24

24
1Yr Arglwydd a ddangosodd i mi, ac wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer teml yr Arglwydd, wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, gyda’r seiri a’r gofaint o Jerwsalem, a’u dwyn i Babilon. 2Un cawell oedd o ffigys da iawn, fel ffigys yr aeddfediad cyntaf: a’r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn, y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced. 3Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Beth a weli di, Jeremeia? A mi a ddywedais, Ffigys: y ffigys da, yn dda iawn; a’r rhai drwg, yn ddrwg iawn, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced.
4Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 5Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais o’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni. 6Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni, ac a’u dygaf drachefn i’r wlad hon, ac a’u hadeiladaf hwynt, ac ni thynnaf i lawr; plannaf hefyd hwynt, ac nis diwreiddiaf. 7Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod, mai yr Arglwydd ydwyf fi: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwy: canys hwy a droant ataf fi â’u holl galon.
8Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr Arglwydd,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a’r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft: 9Ie, rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt. 10A mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint, nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i’w tadau.

Dewis Presennol:

Jeremeia 24: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda