Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 22

22
1Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Dos di i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn; 2A dywed, Gwrando air yr Arglwydd, frenin Jwda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd, ti, a’th weision, a’th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn: 3Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr: na wnewch gam, ac na threisiwch y dieithr, yr amddifad, na’r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn. 4Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn, daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe, a’i weision, a’i bobl. 5Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy hun y tyngaf, medd yr Arglwydd, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd. 6Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am dŷ brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a’th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol. 7Paratoaf hefyd i’th erbyn anrheithwyr, pob un â’i arfau: a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd, ac a’u bwriant i’r tân. 8A chenhedloedd lawer a ânt heblaw y ddinas hon, ac a ddywedant bob un wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r ddinas fawr hon? 9Yna yr atebant, Am iddynt ymwrthod â chyfamod yr Arglwydd eu Duw, ac addoli duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt.
10Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned ymaith: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wêl wlad ei enedigaeth. 11Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am Salum mab Joseia brenin Jwda, yr hwn a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad, yr hwn a aeth allan o’r lle hwn; Ni ddychwel efe yno mwyach. 12Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo, yno y bydd efe farw; ac ni wêl efe y wlad hon mwyach.
13Gwae yr hwn a adeilado ei dŷ trwy anghyfiawnder, a’i ystafellau trwy gam; gan beri i’w gymydog ei wasanaethu yn rhad, ac heb roddi iddo am ei waith: 14Yr hwn a ddywed, Mi a adeiladaf i mi dŷ eang, ac ystafellau helaeth; ac a nadd iddo ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio â fermilion. 15A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo? 16Efe a farnodd gŵyn y tlawd a’r anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr Arglwydd, 17Er hynny dy lygaid di a’th galon nid ydynt ond ar dy gybydd-dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham. 18Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O iôr! neu, O ei ogoniant ef! 19Â chladdedigaeth asyn y cleddir ef, wedi ei lusgo a’i daflu tu hwnt i byrth Jerwsalem.
20Dring i Libanus, a gwaedda; cyfod dy lef yn Basan, a bloeddia o’r bylchau: canys dinistriwyd y rhai oll a’th garant. 21Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat; tithau a ddywedaist, Ni wrandawaf. Dyma dy arfer o’th ieuenctid, na wrandewaist ar fy llais. 22A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid, a’th gariadau a ânt i gaethiwed: yna y’th gywilyddir, ac y’th waradwyddir am dy holl ddrygioni. 23Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, yn nythu yn y cedrwydd, mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat, fel cnofeydd gwraig yn esgor! 24Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, pe byddai Coneia mab Jehoiacim brenin Jwda yn fodrwy ar fy neheulaw, diau y tynnwn di oddi yno: 25A mi a’th roddaf di yn llaw y rhai sydd yn ceisio dy einioes, ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau, sef i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law y Caldeaid. 26Bwriaf dithau hefyd, a’th fam a’th esgorodd, i wlad ddieithr, yr hon ni’ch ganwyd ynddi, ac yno y byddwch farw. 27Ond i’r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno. 28Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a’i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant? 29O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd. 30Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi-blant, gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau: canys ni ffynna o’i had ef un a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Jwda.

Dewis Presennol:

Jeremeia 22: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda