Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 21

21
1A gwŷr Israel a dyngasant ym Mispa, gan ddywedyd, Ni ddyry neb ohonom ei ferch i Benjaminiad yn wraig. 2A daeth y bobl i dŷ Dduw, ac a arosasant yno hyd yr hwyr gerbron Duw, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant ag wylofain mawr: 3Ac a ddywedasant, O Arglwydd Dduw Israel, paham y bu y peth hyn yn Israel, fel y byddai heddiw un llwyth yn eisiau yn Israel? 4A thrannoeth y bobl a foregodasant, ac a adeiladasant yno allor, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd. 5A meibion Israel a ddywedasant, Pwy o holl lwythau Israel ni ddaeth i fyny gyda’r gynulleidfa at yr Arglwydd? canys llw mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsai i fyny at yr Arglwydd i Mispa, gan ddywedyd, Rhoddir ef i farwolaeth yn ddiau. 6A meibion Israel a edifarhasant oherwydd Benjamin eu brawd: a dywedasant, Torrwyd ymaith heddiw un llwyth o Israel: 7Beth a wnawn ni am wragedd i’r rhai a adawyd, gan dyngu ohonom ni i’r Arglwydd, na roddem iddynt yr un o’n merched ni yn wragedd?
8Dywedasant hefyd, Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fyny at yr Arglwydd i Mispa? Ac wele, ni ddaethai neb o Jabes Gilead i’r gwersyll, at y gynulleidfa. 9Canys y bobl a gyfrifwyd; ac wele, nid oedd yno neb o drigolion Jabes Gilead. 10A’r gynulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymus; ac a orchmynasant iddynt, gan ddywedyd, Ewch a threwch breswylwyr Jabes Gilead â min y cleddyf, y gwragedd hefyd a’r plant. 11Dyma hefyd y peth a wnewch chwi: Difethwch bob gwryw, a phob gwraig a orweddodd gyda gŵr. 12A hwy a gawsant ymhlith trigolion Jabes Gilead, bedwar cant o lancesau yn wyryfon, y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr: a dygasant hwynt i’r gwersyll i Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan. 13A’r holl gynulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin, y rhai oedd yng nghraig Rimmon, ac i gyhoeddi heddwch iddynt. 14A’r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly. 15A’r bobl a edifarhaodd dros Benjamin, oherwydd i’r Arglwydd wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel.
16Yna henuriaid y gynulleidfa a ddywedasant, Beth a wnawn ni am wragedd i’r lleill, gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin? 17Dywedasant hefyd, Rhaid yw bod etifeddiaeth i’r rhai a ddihangodd o Benjamin, fel na ddileer llwyth allan o Israel. 18Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o’n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin. 19Yna y dywedasant, Wele, y mae gŵyl i’r Arglwydd bob blwyddyn yn Seilo, o du y gogledd i Bethel, tua chyfodiad haul i’r briffordd y sydd yn myned i fyny o Bethel i Sichem, ac o du y deau i Libanus. 20Am hynny y gorchmynasant hwy i feibion Benjamin, gan ddywedyd, Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd: 21Edrychwch hefyd; ac wele, os merched Seilo a ddaw allan i ddawnsio mewn dawnsiau; yna deuwch chwithau allan o’r gwinllannoedd, a chipiwch i chwi bob un ei wraig o ferched Seilo, ac ewch i wlad Benjamin. 22A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn atom ni, yna y dywedwn wrthynt, Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel: o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hwn, ni byddwch chwi euog. 23A meibion Benjamin a wnaethant felly; a chymerasant wragedd yn ôl eu rhifedi, o’r rhai a gipiasent, ac a oeddynt yn dawnsio: a hwy a aethant ymaith, a dychwelasant i’w hetifeddiaeth, ac a adgyweiriasant y dinasoedd, ac a drigasant ynddynt. 24A meibion Israel a ymadawsant oddi yno y pryd hwnnw, bob un at ei lwyth, ac at ei deulu; ac a aethant oddi yno bob un i’w etifeddiaeth. 25Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel: pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.

Dewis Presennol:

Barnwyr 21: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda