Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 9:8-21

Eseia 9:8-21 BWM

Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob; ac efe a syrthiodd ar Israel. A’r holl bobl a wybydd, sef Effraim a thrigiannydd Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon, Y priddfeini a syrthiasant, ond â cherrig nadd yr adeiladwn: y sycamorwydd a dorrwyd, ond ni a’u newidiwn yn gedrwydd. Am hynny yr ARGLWYDD a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef, ac a gysyllta ei elynion ef ynghyd; Y Syriaid o’r blaen, a’r Philistiaid hefyd o’r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig. A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u trawodd, ac ni cheisiant ARGLWYDD y lluoedd. Am hynny y tyr yr ARGLWYDD oddi wrth Israel ben a chynffon, cangen a brwynen, yn yr un dydd. Yr henwr a’r anrhydeddus yw y pen: a’r proffwyd sydd yn dysgu celwydd, efe yw y gynffon. Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni, a llyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt. Am hynny nid ymlawenha yr ARGLWYDD yn eu gwŷr ieuainc hwy, ac wrth eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia: canys pob un ohonynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig. Oherwydd anwiredd a lysg fel tân; y mieri a’r drain a ysa efe, ac a gynnau yn nrysni y coed; a hwy a ddyrchafant fel ymddyrchafiad mwg. Gan ddigofaint ARGLWYDD y lluoedd y tywylla y ddaear, ac y bydd y bobl fel ymborth tân: nid eiriach neb ei frawd. Ac efe a gipia ar y llaw ddeau, ac a newyna; bwyty hefyd ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun: Manasse, Effraim; ac Effraim, Manasse: hwythau ynghyd yn erbyn Jwda. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.