Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 7

7
1A bu yn nyddiau Ahas mab Jotham, mab Usseia brenin Jwda, ddyfod o Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia, brenin Israel, i fyny tua Jerwsalem, i ryfela arni: ond ni allodd ei gorchfygu. 2A mynegwyd i dŷ Dafydd, gan ddywedyd, Syria a gydsyniodd ag Effraim. A’i galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt. 3Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Eseia, Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahas, ti a Sear-jasub dy fab, wrth ymyl pistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr: 4A dywed wrtho, Ymgadw, a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn, rhag angerdd llid Resin, a Syria, a mab Remaleia: 5Canys Syria, ac Effraim, a mab Remaleia, a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn, gan ddywedyd, 6Esgynnwn yn erbyn Jwda, a blinwn hi, torrwn hi hefyd atom, a gosodwn frenin yn ei chanol hi; sef mab Tabeal. 7Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni saif, ac ni bydd hyn. 8Canys pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl. 9Hefyd pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni chredwch, diau ni sicrheir chwi.
10A’r Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahas gan ddywedyd, 11Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw; gofyn o’r dyfnder, neu o’r uchelder oddi arnodd. 12Ond Ahas a ddywedodd, Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr Arglwydd. 13A dywedodd yntau, Gwrandewch yr awr hon, tŷ Dafydd; Ai bychan gennych flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw? 14Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel. 15Ymenyn a mêl a fwyty efe; fel y medro ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da. 16Canys cyn medru o’r bachgen ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da, y gwrthodir y wlad a ffieiddiaist, gan ei dau frenin.
17Yr Arglwydd a ddwg arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dadau, ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Effraim oddi wrth Jwda, sef brenin Asyria. 18A bydd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd chwibanu am y gwybedyn sydd yn eithaf afonydd yr Aifft, ac am y wenynen sydd yn nhir Asyria: 19A hwy a ddeuant ac a orffwysant oll yn y dyffrynnoedd anghyfanheddol, ac yng nghromlechydd y creigiau, ac yn yr ysbyddaid oll, ac yn y perthi oll. 20Yn y dydd hwnnw yr eillia yr Arglwydd â’r ellyn a gyflogir, sef â’r rhai o’r tu hwnt i’r afon, sef â brenin Asyria, y pen, a blew y traed; a’r farf hefyd a ddifa efe. 21A bydd yn y dydd hwnnw, i ŵr fagu anner-fuwch, a dwy ddafad: 22Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant, iddo fwyta ymenyn: canys ymenyn a mêl a fwyty pawb a adewir o fewn y tir. 23A bydd y dydd hwnnw, fod pob lle yr hwn y bu ynddo fil o winwydd er mil o arian bathol, yn fieri ac yn ddrain y bydd. 24Â saethau ac â bwâu y daw yno: canys yn fieri ac yn ddrain y bydd yr holl wlad. 25Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibir â cheibiau, ni ddaw yno ofn mieri na drain: ond bydd yn hebryngfa gwartheg, ac yn sathrfa defaid.

Dewis Presennol:

Eseia 7: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda