Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 48

48
1Gwrandewch hyn, tŷ Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, ac a ddaethant allan o ddyfroedd Jwda; y rhai a dyngant i enw yr Arglwydd, ac a goffânt am Dduw Israel, nid mewn gwirionedd, nac mewn cyfiawnder. 2Canys hwy a’u galwant eu hunain o’r ddinas sanctaidd, ac a bwysant ar Dduw Israel; enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd. 3Y pethau gynt a fynegais er y pryd hwnnw, a daethant o’m genau, a mi a’u traethais; mi a’u gwneuthum yn ddisymwth, daethant i ben. 4Oherwydd i mi wybod dy fod di yn galed, a’th war fel giewyn haearn, a’th dalcen yn bres; 5Mi a’i mynegais i ti er y pryd hwnnw; adroddais i ti cyn ei ddyfod; rhag dywedyd ohonot, Fy nelw a’u gwnaeth, fy ngherfddelw a’m tawdd-ddelw a’u gorchmynnodd. 6Ti a glywaist, gwêl hyn oll; ac oni fynegwch chwithau ef? adroddais i ti bethau newyddion o’r pryd hwn, a phethau cuddiedig, y rhai ni wyddit oddi wrthynt. 7Yn awr y crewyd hwynt, ac nid er y dechreuad, cyn y dydd ni chlywaist sôn amdanynt: rhag dywedyd ohonot, Wele, gwyddwn hwynt. 8Ie, nis clywsit, ac nis gwyddit chwaith, nid agorasid dy glust y pryd hwnnw: canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon, a’th alw o’r groth yn droseddwr.
9Er mwyn fy enw yr oedaf fy llid, ac er fy mawl yr ymataliaf oddi wrthyt, rhag dy ddifetha. 10Wele, myfi a’th burais, ond nid fel arian; dewisais di mewn pair cystudd. 11Er fy mwyn fy hun, er fy mwyn fy hun, y gwnaf hyn; canys pa fodd yr halogid fy enw? ac ni roddaf fy ngogoniant i arall.
12Gwrando arnaf fi, Jacob, ac Israel, yr hwn a elwais: myfi yw; myfi yw y cyntaf, a mi yw y diwethaf. 13Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaear, a’m deheulaw i a rychwantodd y nefoedd: pan alwyf fi arnynt, hwy a gydsafant. 14Ymgesglwch oll, a gwrandewch; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn? Yr Arglwydd a’i hoffodd; efe a wna ei ewyllys ar Babilon, a’i fraich a fydd ar y Caldeaid. 15Myfi, myfi a leferais, ac a’i gelwais ef: dygais ef, ac efe a lwydda ei ffordd ef.
16Nesewch ataf, gwrandewch hyn; ni leferais o’r cyntaf yn ddirgel; er y pryd y mae hynny yr ydwyf finnau yno: ac yn awr yr Arglwydd Dduw a’i Ysbryd a’m hanfonodd. 17Fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Waredydd, Sanct Israel; Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio. 18O na wrandawsit ar fy ngorchmynion! yna y buasai dy heddwch fel afon, a’th gyfiawnder fel tonnau y môr: 19A buasai dy had fel y tywod, ac epil dy gorff fel ei raean ef: ni thorasid, ac ni ddinistriasid ei enw oddi ger fy mron.
20Ewch allan o Babilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid, â llef gorfoledd mynegwch ac adroddwch hyn, traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear; dywedwch, Gwaredodd yr Arglwydd ei was Jacob. 21Ac ni sychedasant pan arweiniodd hwynt yn yr anialwch: gwnaeth i ddwfr bistyllio iddynt o’r graig: holltodd y graig hefyd, a’r dwfr a ddylifodd. 22Nid oes heddwch, medd yr Arglwydd, i’r rhai annuwiol.

Dewis Presennol:

Eseia 48: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda