Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 37

37
1A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd mewn sachliain, ac a aeth i dŷ yr Arglwydd. 2Ac a anfonodd Eliacim y penteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos. 3A hwy a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Heseceia, Diwrnod cyfyngder, a cherydd, a chabledd, yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor. 4Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael. 5Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.
6A dywedodd Eseia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi. 7Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.
8Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna: canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis. 9Ac efe a glywodd sôn am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Efe a aeth allan i ryfela â thi. A phan glywodd hynny, efe a anfonodd genhadau at Heseceia, gan ddywedyd, 10Fel hyn y dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria. 11Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt; ac a waredir di? 12A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden, y rhai oedd o fewn Telassar? 13Mae brenin Hamath, a brenin Arffad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?
14A chymerth Heseceia y llythyr o law y cenhadau, ac a’i darllenodd; a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, ac a’i lledodd gerbron yr Arglwydd. 15A Heseceia a weddïodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd, 16Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, ti ydwyt Dduw, ie, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear: ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear. 17Gogwydda, Arglwydd, dy glust, a gwrando; agor dy lygaid, Arglwydd, ac edrych: gwrando hefyd holl eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw. 18Gwir yw, O Arglwydd, i frenhinoedd Asyria ddifa yr holl genhedloedd a’u gwledydd, 19A rhoddi eu duwiau hwy yn tân; canys nid oeddynt hwy dduwiau, ond gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt. 20Yr awr hon gan hynny, O Arglwydd ein Duw, achub ni o’i law ef; fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr Arglwydd, tydi yn unig.
21Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Senacherib brenin Asyria: 22Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef; Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd, ac a’th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl. 23Pwy a ddifenwaist ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist dy lef, ac y cyfodaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel. 24Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a’i ddewis ffynidwydd; af hefyd i’w gwr uchaf, ac i goed ei ddoldir. 25Myfi a gloddiais, ac a yfais ddwfr; â gwadnau fy nhraed hefyd y sychais holl afonydd y gwarchaeëdig. 26Oni chlywaist wneuthur ohonof hyn er ys talm, a’i lunio er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddistrywio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol. 27Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, a glaswellt ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu. 28Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, a adnabûm, a’th gynddeiriowgrwydd i’m herbyn. 29Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau; am hynny y rhoddaf fy mach yn dy ffroen di, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost. 30A hyn fydd yn arwydd i ti, Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun; ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. 31A’r gweddill o dŷ Jwda, yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny. 32Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a’r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn. 33Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia efe saeth yno; hefyd ni ddaw o’i blaen â tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn. 34Ar hyd yr un ffordd ag y daeth y dychwel, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr Arglwydd. 35Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.
36Yna yr aeth angel yr Arglwydd, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.
37Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.
38A bu, fel yr ydoedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion, ei daro ef â’r cleddyf; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia. Ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Dewis Presennol:

Eseia 37: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda