Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 27

27
1Y dydd hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â’i gleddyf caled, mawr, a chadarn, â lefiathan y sarff hirbraff, ie, â lefiathan y sarff dorchog: ac efe a ladd y ddraig sydd yn y môr. 2Yn y dydd hwnnw cenwch iddi, Gwinllan y gwin coch. 3Myfi yr Arglwydd a’i ceidw; ar bob moment y dyfrhaf hi: cadwaf hi nos a dydd, rhag i neb ei drygu. 4Nid oes lidiowgrwydd ynof: pwy a osodai fieri a drain yn fy erbyn mewn rhyfel? myfi a awn trwyddynt, mi a’u llosgwn hwynt ynghyd. 5Neu ymafled yn fy nerth i, fel y gwnelo heddwch â mi, ac efe a wna heddwch â mi. 6Efe a wna i hiliogaeth Jacob wreiddio; Israel a flodeua, ac a flaendardda; a hwy a lanwant wyneb y byd â chnwd.
7A drawodd efe ef fel y trawodd y rhai a’i trawsai ef? a laddwyd ef fel lladdfa ei laddedigion ef? 8Wrth fesur, pan êl allan, yr ymddadlau ag ef: y mae yn atal ei wynt garw ar ddydd dwyreinwynt. 9Am hynny trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob; a dyna’r holl ffrwyth, tynnu ymaith ei bechod: pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig, ni saif y llwyni na’r delwau. 10Eto y ddinas gadarn fydd unig, a’r annedd wedi ei adael, a’i wrthod megis yn anialwch: yno y pawr y llo, ac y gorwedd, ac y difa ei blagur hi. 11Pan wywo ei brig hi, hwy a dorrir: gwragedd a ddaw, ac a’i llosgant hi; canys nid pobl ddeallgar ydynt: am hynny yr hwn a’u gwnaeth ni thosturia wrthynt, a’r hwn a’u lluniodd ni thrugarha wrthynt.
12A’r dydd hwnnw y bydd i’r Arglwydd ddyrnu, o ffrwd yr afon hyd afon yr Aifft: a chwi feibion Israel a gesglir bob yn un ac un. 13Ac yn y dydd hwnnw yr utgenir ag utgorn mawr; yna y daw y rhai ar ddarfod amdanynt yn nhir Asyria, a’r rhai a wasgarwyd yn nhir yr Aifft, ac a addolant yr Arglwydd yn y mynydd sanctaidd yn Jerwsalem.

Dewis Presennol:

Eseia 27: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd