Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i’m hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â’i fyddinoedd. Er i’r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a’r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o’r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai: Eto mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD; byddaf hyfryd yn NUW fy iachawdwriaeth. Yr ARGLWYDD DDUW yw fy nerth, a’m traed a wna efe fel traed ewigod; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I’r pencerdd ar fy offer tannau.
Darllen Habacuc 3
Gwranda ar Habacuc 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Habacuc 3:16-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos