Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 23

23
1Ac oes Sara ydoedd gan mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sara. 2A Sara a fu farw yng Nghaer-arba; honno yw Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sara, ac i wylofain amdani hi.
3Yna y cyfododd Abraham i fyny oddi gerbron ei gorff marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd, 4Dieithr ac alltud ydwyf fi gyda chwi: rhoddwch i mi feddiant beddrod gyda chwi, fel y claddwyf fy marw allan o’m golwg. 5A meibion Heth a atebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho, 6Clyw ni, fy arglwydd: tywysog Duw wyt ti yn ein plith: cladd dy farw yn dy ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw. 7Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymodd i bobl y tir, sef i feibion Heth; 8Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o’m golwg, gwrandewch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar; 9Ar roddi ohono ef i mi yr ogof Machpela, yr hon sydd eiddo ef, ac sydd yng nghwr ei faes; er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi. 10Ac Effron oedd yn aros ymysg meibion Heth: ac Effron yr Hethiad a atebodd Abraham, lle y clywodd meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd, 11Nage, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a’r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi; yng ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw. 12Ac Abraham a ymgrymodd o flaen pobl y tir. 13Ac efe a lefarodd wrth Effron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Eto, os tydi a’i rhoddi, atolwg, gwrando fi: rhoddaf werth y maes; cymer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno. 14Ac Effron a atebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho, 15Gwrando fi, fy arglwydd; y tir a dâl bedwar can sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw. 16Felly Abraham a wrandawodd ar Effron: a phwysodd Abraham i Effron yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar can sicl o arian cymeradwy ymhlith marchnadwyr.
17Felly y sicrhawyd maes Effron, yr hwn oedd ym Machpela, yr hon oedd o flaen Mamre, y maes a’r ogof oedd ynddo, a phob pren a’r a oedd yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch, 18Yn feddiant i Abraham, yng ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef. 19Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig yn ogof maes Machpela, o flaen Mamre; honno yw Hebron, yn nhir Canaan. 20A sicrhawyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.

Dewis Presennol:

Genesis 23: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda