Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 35

35
1A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2Gosod dy wyneb, fab dyn, tuag at fynydd Seir, a phroffwyda yn ei erbyn, 3A dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn di, mynydd Seir; estynnaf hefyd fy llaw i’th erbyn, a gwnaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch. 4Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeithwch, a thithau a fyddi yn anghyfannedd; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd. 5Am fod gennyt alanastra tragwyddol, a thywallt ohonot waed meibion Israel â min y cleddyf, yn amser eu gofid, yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt: 6Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, mi a’th wnaf di yn waed, a gwaed a’th ymlid di: gan na chasei waed, gwaed a’th ddilyn. 7Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan, a’r hwn a ddychwelo. 8Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef â’i laddedigion: yn dy fryniau, a’th ddyffrynnoedd, a’th holl afonydd, y syrth y rhai a laddwyd â’r cleddyf. 9Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol, a’th ddinasoedd ni ddychwelant; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 10Am ddywedyd ohonot, Y ddwy genedl a’r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fi, a nyni a’i meddiannwn; er bod yr Arglwydd yno: 11Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, gwnaf yn ôl dy ddig, ac yn ôl dy genfigen, y rhai o’th gas yn eu herbyn hwynt a wnaethost; fel y’m hadwaener yn eu mysg hwynt, pan y’th farnwyf di. 12A chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel, gan ddywedyd, Anrheithiwyd hwynt, i ni y rhoddwyd hwynt i’w difa. 13Ymfawrygasoch hefyd â’ch geneuau yn fy erbyn i, ac amlhasoch eich geiriau i’m herbyn: mi a’u clywais. 14Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan lawenycho yr holl wlad, mi a’th wnaf di yn anghyfannedd. 15Yn ôl dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel, oherwydd ei anrheithio, felly y gwnaf i tithau: anrhaith fyddi di, mynydd Seir, ac Edom oll i gyd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Eseciel 35: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda