Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 4:1-16

Exodus 4:1-16 BWM

A Moses a atebodd, ac a ddywedodd, Eto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr ARGLWYDD i ti. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwialen. Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a’i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarff: a Moses a giliodd rhagddi. Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. (Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef:) Fel y credant ymddangos i ti o ARGLWYDD DDUW eu tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira. Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a’i tynnodd hi allan o’i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef. A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, eto y credant i lais yr ail arwydd. A bydd, oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymeri o ddwfr yr afon ac a’i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymerech o’r afon yn waed ar y tir sych. A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, O fy Arglwydd, ni bûm ŵr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr ARGLWYDD? Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyda’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych. Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, atolwg, gyda’r hwn a ddanfonych. Ac enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon. Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyda’th enau di, a chyda’i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch. A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle DUW iddo yntau.