Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 24

24
1Pan gymero gŵr wraig, a’i phriodi; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o’i dŷ. 2Pan elo hi allan o’i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall: 3Os ei gŵr diwethaf a’i casâ hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a’i rhydd yn ei llaw hi, ac a’i gollwng hi o’i dŷ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a’i cymerodd hi yn wraig iddo: 4Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd-dra yw hwn o flaen yr Arglwydd; ac na wna i’r wlad bechu, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth.
5Pan gymero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhau ei wraig a gymerodd.
6Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl: canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl.
7Pan gaffer gŵr yn lladrata un o’i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o’th fysg.
8Gwylia ym mhla y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy. 9Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o’r Aifft.
10Pan fenthycieth i’th gymydog fenthyg dim, na ddos i’w dŷ ef i gymryd ei wystl ef. 11Allan y sefi; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti. 12Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â’i wystl gyda thi. 13Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y’th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.
14Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di: 15Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot. 16Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.
17Na ŵyra farn y dieithr na’r amddifad; ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw. 18Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
19Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymryd: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo. 20Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 21Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 22Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 24: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda