Deuteronomium 2
2
1Yna y troesom, ac yr aethom i’r anialwch, ar hyd ffordd y môr coch, fel y dywedasai yr Arglwydd wrthyf, ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau lawer. 2Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrthyf, gan ddywedyd, 3Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn; ymchwelwch rhagoch tua’r gogledd. 4A gorchymyn i’r bobl, gan ddywedyd, Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhagoch: ond ymgedwch yn ddyfal. 5Nac ymyrrwch arnynt: oherwydd ni roddaf i chwi o’u tir hwynt gymaint â lled troed; canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir; 6Prynwch fwyd ganddynt am arian, fel y bwytaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch. 7Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyda thi; ni bu arnat eisiau dim. 8Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o Esion-gaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab. 9A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na orthryma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt: oblegid ni roddaf i ti feddiant o’i dir ef; oherwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth 10(Yr Emiaid o’r blaen a gyfaneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid; 11Yn gewri y cymerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid; a’r Moabiaid a’u galwent hwy yn Emiaid. 12Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o’r blaen; a meibion Esau a ddaeth ar eu hôl hwynt, ac a’u difethasant o’u blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt; fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau, yr hon a roddes yr Arglwydd iddynt.) 13Yna y dywedais, Cyfodwch yn awr, a thramwywch rhagoch dros afon Sared. A ni a aethom dros afon Sared. 14A’r dyddiau y cerddasom o Cades-barnea, hyd pan ddaethom dros afon Sared, oedd onid dwy flynedd deugain; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau, fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt. 15Canys llaw yr Arglwydd ydoedd yn eu herbyn hwynt, i’w torri hwynt o ganol y gwersyll, hyd oni ddarfuant.
16A bu, wedi darfod yr holl ryfelwyr a’u marw o blith y bobloedd, 17Lefaru o’r Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd, 18Tydi heddiw wyt ar fyned trwy derfynau Moab, sef trwy Ar: 19A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon, na orthryma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot. 20(Yn wlad cewri hefyd y cyfrifwyd hi: cewri a breswyliasant ynddi o’r blaen; a’r Ammoniaid a’u galwent hwy yn Samsummiaid: 21Pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid, a’r Arglwydd a’u difethodd hwynt o’u blaen hwy; a hwy a ddaethant ar eu hôl hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt. 22Fel y gwnaeth i feibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid o’u blaen, fel y daethant ar eu hôl hwynt, ac y trigasant yn eu lle hwynt, hyd y dydd hwn; 23Felly am yr Afiaid, y rhai oedd yn trigo yn Haserim, hyd Assa, y Cafftoriaid, y rhai a ddaethant allan o Cafftor, a’u difethasant hwy, ac a drigasant yn eu lle hwynt.)
24Cyfodwch, cychwynnwch, ac ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon, yr Amoriad, a’i wlad ef; dechrau ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef. 25Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a’th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd: y rhai a glywant dy enw di, a ddychrynant, ac a lesgânt rhagot ti.
26A mi a anfonais genhadau o anialwch Cedemoth, at Sehon brenin Hesbon, â geiriau heddwch, gan ddywedyd, 27Gad i mi fyned trwy dy wlad di: ar hyd y briffordd y cerddaf; ni chiliaf i’r tu deau nac i’r tu aswy. 28Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwytawyf; a dyro ddwfr am arian i mi, fel yr yfwyf: ar fy nhraed yn unig y tramwyaf; 29(Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a’r Moabiaid, y rhai sydd yn trigo yn Ar;) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen, i’r wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni. 30Ond ni fynnai Sehon brenin Hesbon ein gollwng heb ei law: oblegid yr Arglwydd dy Dduw a galedasai ei ysbryd ef, ac a gadarnhasai ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di; megis heddiw y gwelir. 31A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wele, dechreuais roddi Sehon a’i wlad o’th flaen di: dechrau feddiannu, fel yr etifeddech ei wlad ef. 32Yna Sehon a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel yn Jahas. 33Ond yr Arglwydd ein Duw a’i rhoddes ef o’n blaen; ac ni a’i trawsom ef, a’i feibion, a’i holl bobl: 34Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ac a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant; ac ni adawsom un yng ngweddill. 35Ond ysglyfaethasom yr anifeiliaid i ni, ac ysbail y dinasoedd y rhai a enillasom. 36O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, ac o’r ddinas sydd ar yr afon, a hyd at Gilead, ni bu ddinas a’r a ddihangodd rhagom: yr Arglwydd ein Duw a roddes y cwbl o’n blaen ni. 37Yn unig ni ddaethost i dir meibion Ammon, sef holl lan afon Jabboc, nac i ddinasoedd y mynydd, nac i’r holl leoedd a waharddasai yr Arglwydd ein Duw i ni.
Dewis Presennol:
Deuteronomium 2: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.