Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau’r Apostolion 24

24
1Ac ar ôl pum niwrnod, y daeth Ananeias yr archoffeiriad i waered, a’r henuriaid, ac un Tertwlus, areithiwr; y rhai a ymddangosasant gerbron y rhaglaw yn erbyn Paul. 2Ac wedi ei alw ef gerbron, Tertwlus a ddechreuodd ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, 3Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr, a bod pethau llwyddiannus i’r genedl hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn gwbl, ac ym mhob man, yn eu cydnabod, O ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolch. 4Eithr, fel na rwystrwyf di ymhellach, yr ydwyf yn deisyf arnat, o’th hynawsedd, wrando arnom ar fyr eiriau. 5Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn bla, ac yn cyfodi terfysg ymysg yr holl Iddewon trwy’r byd, ac yn ben ar sect y Nasareniaid: 6Yr hwn a amcanodd halogi’r deml: yr hwn hefyd a ddaliasom ni, ac a fynasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni. 7Eithr Lysias y pen-capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a’i dug ef allan o’n dwylo ni, 8Ac a archodd i’w gyhuddwyr ddyfod ger dy fron di: gan yr hwn, wrth ei holi, y gelli dy hun gael gwybodaeth o’r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno. 9A’r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly. 10A Phaul a atebodd, wedi i’r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i’r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun. 11Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem. 12Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb, nac yn gwneuthur terfysg i’r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas: 13Ac ni allant brofi’r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o’u plegid. 14Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a’r proffwydi: 15A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae’r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd atgyfodiad y meirw, i’r cyfiawnion ac i’r anghyfiawnion. 16Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi-rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol. 17Ac ar ôl llawer o flynyddoedd, y deuthum i wneuthur elusennau i’m cenedl, ac offrymau. 18Ar hynny rhai o’r Iddewon o Asia a’m cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thorf na therfysg. 19Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i’m herbyn. 20Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor; 21Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith; Am atgyfodiad y meirw y’m bernir heddiw gennych. 22Pan glybu Ffelix y pethau hyn, efe a’u hoedodd hwynt, gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i’r ffordd honno; ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen-capten i waered, mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl. 23Ac efe a archodd i’r canwriad gadw Paul, a chael ohono esmwythdra; ac na lesteiriai neb o’r eiddo ef i’w wasanaethu, nac i ddyfod ato. 24Ac ar ôl talm o ddyddiau, y daeth Ffelix, gyda’i wraig Drusila, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a’i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist. 25Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a’r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat. 26A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef. 27Ac wedi cyflawni dwy flynedd, y daeth Porcius Ffestus yn lle Ffelix. A Ffelix, yn ewyllysio gwneuthur cymwynas i’r Iddewon, a adawodd Paul yn rhwym.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda