Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 15

15
1Ac wedi hyn y paratôdd Absalom iddo ei hun gerbydau, a meirch, a dengwr a deugain i redeg o’i flaen. 2Ac Absalom a gyfodai yn fore, ac a safai gerllaw ffordd y porth: ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywedai, O ba ddinas yr ydwyt ti? Yntau a ddywedai, O un o lwythau Israel y mae dy was. 3Ac Absalom a ddywedai wrtho ef, Wele, y mae dy faterion yn dda, ac yn uniawn; ond nid oes neb dan y brenin a wrandawo arnat ti. 4Dywedai Absalom hefyd, O na’m gosodid i yn farnwr yn y wlad, fel y delai ataf fi bob gŵr a fyddai ganddo hawl neu gyngaws; myfi a wnawn gyfiawnder iddo! 5A phan nesâi neb i ymgrymu iddo ef, efe a estynnai ei law, ac a ymaflai ynddo ef, ac a’i cusanai. 6Ac fel hyn y gwnâi Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin. Felly Absalom a ladrataodd galon holl wŷr Israel.
7Ac ymhen deugain mlynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin, Gad i mi fyned, atolwg, a thalu fy adduned a addunedais i’r Arglwydd, yn Hebron. 8Canys dy was a addunedodd adduned, pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria, gan ddywedyd, Os gan ddychwelyd y dychwel yr Arglwydd fi i Jerwsalem, yna y gwasanaethaf yr Arglwydd. 9A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Dos mewn heddwch. Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Hebron.
10Eithr Absalom a anfonodd ysbïwyr trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Pan glywoch lais yr utgorn, yna dywedwch, Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron. 11A dau cant o wŷr a aethant gydag Absalom o Jerwsalem, ar wahodd; ac yr oeddynt yn myned yn eu gwiriondeb, ac heb wybod dim oll. 12Ac Absalom a anfonodd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorwr Dafydd, o’i ddinas, o Gilo, tra oedd efe yn offrymu aberthau. A’r cydfradwriaeth oedd gryf; a’r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol.
13A daeth cennad at Dafydd, gan ddywedyd, Y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom. 14A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai oedd gydag ef yn Jerwsalem, Cyfodwch, a ffown; canys ni ddihangwn ni gan Absalom: brysiwch i fyned; rhag iddo ef frysio a’n dala ni, a dwyn drwg arnom ni, a tharo’r ddinas â min y cleddyf. 15A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin, Wele dy weision yn barod, ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin. 16A’r brenin a aeth, a’i holl dylwyth ar ei ôl. A’r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw y tŷ. 17A’r brenin a aeth ymaith, a’r holl bobl ar ei ôl; a hwy a arosasant mewn lle o hirbell. 18A’i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef: yr holl Gerethiaid, a’r holl Belethiaid, a’r holl Gethiaid, y chwe channwr a ddaethai ar ei ôl ef o Gath, oedd yn cerdded o flaen y brenin.
19Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad, Paham yr ei di hefyd gyda ni? Dychwel, a thrig gyda’r brenin: canys alltud ydwyt ti, a dieithr hefyd allan o’th fro dy hun. 20Doe y daethost ti; a fudwn i di heddiw i fyned gyda ni? Myfi a af: dychwel di, a dwg dy frodyr gyda thi: trugaredd a gwirionedd fyddo gyda thi. 21Ac Ittai a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo, pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes, yno y bydd dy was hefyd. 22A Dafydd a ddywedodd wrth Ittai, Dos, a cherdda drosodd. Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd, a’i holl wŷr, a’r holl blant oedd gydag ef. 23A’r holl wlad oedd yn wylofain â llef uchel; a’r holl bobl a aethant drosodd. A’r brenin a aeth dros afon Cidron, a’r holl bobl a aeth drosodd, tua ffordd yr anialwch.
24Ac wele Sadoc, a’r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod Duw; a hwy a osodasant i lawr arch Duw: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i’r holl bobl ddyfod allan o’r ddinas. 25A dywedodd y brenin wrth Sadoc, Dychwel ag arch Duw i’r ddinas: os caf fi ffafr yng ngolwg yr Arglwydd, efe a’m dwg eilwaith, ac a bair i mi ei gweled hi, a’i babell. 26Ond os fel hyn y dywed efe; Nid wyf fodlon i ti; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg. 27A’r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad, Onid gweledydd ydwyt ti? dychwel i’r ddinas mewn heddwch, a’th ddau fab gyda thi, sef Ahimaas dy fab, a Jonathan mab Abiathar. 28Gwelwch, mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthych i’w fynegi i mi. 29Felly Sadoc ac Abiathar a ddygasant yn ei hôl arch Duw i Jerwsalem; ac a arosasant yno.
30A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a’i ben wedi ei orchuddio, ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A’r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo.
31A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O Arglwydd, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb.
32A phan ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe Dduw ynddo, wele Husai yr Arciad yn ei gyfarfod ef, wedi rhwygo ei bais, a phridd ar ei ben. 33A Dafydd a ddywedodd wrtho, Od ei drosodd gyda mi, ti a fyddi yn faich arnaf: 34Ond os dychweli i’r ddinas, a dywedyd wrth Absalom, Dy was di, O frenin, fyddaf fi; gwas dy dad fûm hyd yn hyn, ac yn awr dy was dithau fyddaf: ac felly y diddymi i mi gyngor Ahitoffel. 35Oni bydd gyda thi yno Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid? am hynny pob gair a glywych o dŷ y brenin, mynega i Sadoc ac i Abiathar yr offeiriaid. 36Wele, y mae yno gyda hwynt eu dau fab, Ahimaas mab Sadoc, a Jonathan mab Abiathar: danfonwch gan hynny gyda hwynt ataf fi bob peth a’r a glywoch. 37Felly Husai, cyfaill Dafydd, a ddaeth i’r ddinas; ac Absalom a ddaeth i Jerwsalem.

Dewis Presennol:

2 Samuel 15: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda