Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Onid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy? Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy. Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy. Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd.
Darllen 2 Corinthiaid 13
Gwranda ar 2 Corinthiaid 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Corinthiaid 13:5-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos