2 Cronicl 35
35
1A Joseia a gynhaliodd Basg i’r Arglwydd yn Jerwsalem: a hwy a laddasant y Pasg y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf. 2Ac efe a gyfleodd yr offeiriaid yn eu goruchwyliaethau, ac a’u hanogodd hwynt i weinidogaeth tŷ yr Arglwydd; 3Ac a ddywedodd wrth y Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu holl Israel, ac oedd sanctaidd i’r Arglwydd, Rhoddwch yr arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Solomon mab Dafydd brenin Israel; na fydded hi mwyach i chwi yn faich ar ysgwydd: gwasanaethwch yn awr yr Arglwydd eich Duw, a’i bobl Israel, 4Ac ymbaratowch wrth deuluoedd eich tadau, yn ôl eich dosbarthiadau, yn ôl ysgrifen Dafydd brenin Israel, ac yn ôl ysgrifen Solomon ei fab ef. 5A sefwch yn y cysegr yn ôl dosbarthiadau tylwyth tadau eich brodyr y bobl, ac yn ôl dosbarthiad tylwyth y Lefiaid. 6Felly lleddwch y Pasg, ac ymsancteiddiwch, a pharatowch eich brodyr, i wneuthur yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses. 7A Joseia a roddodd i’r bobl ddiadell o ŵyn, a mynnod, i gyd tuag at y Pasg-aberthau, sef i bawb a’r a gafwyd, hyd rifedi deng mil ar hugain, a thair mil o eidionau; hyn oedd o gyfoeth y brenin. 8A’i dywysogion ef a roddasant yn ewyllysgar i’r bobl, i’r offeiriaid, ac i’r Lefiaid: Hilceia, a Sechareia, a Jehiel, blaenoriaid tŷ Dduw, a roddasant i’r offeiriaid tuag at y Pasg-aberthau, ddwy fil a chwe chant o ddefaid, a thri chant o eidionau. 9Cononeia hefyd, a Semaia, a Nethaneel, ei frodyr, a Hasabeia, a Jehiel, a Josabad, tywysogion y Lefiaid, a roddasant i’r Lefiaid yn Basg-ebyrth, bum mil o ddefaid, a phum cant o eidionau. 10Felly y paratowyd y gwasanaeth; a’r offeiriaid a safasant yn eu lle, a’r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin. 11A hwy a laddasant y Pasg; a’r offeiriaid a daenellasant y gwaed o’u llaw hwynt, a’r Lefiaid oedd yn eu blingo hwynt. 12A chymerasant ymaith y poethoffrymau, i’w rhoddi yn ôl dosbarthiadau teuluoedd y bobl, i offrymu i’r Arglwydd, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Moses: ac felly am yr eidionau. 13A hwy a rostiasant y Pasg wrth dân yn ôl y ddefod: a’r cysegredig bethau eraill a ferwasant hwy mewn crochanau, ac mewn pedyll, ac mewn peiriau, ac a’u rhanasant ar redeg i’r holl bobl. 14Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain, ac i’r offeiriaid; canys yr offeiriaid meibion Aaron oedd yn offrymu’r poethoffrymau a’r braster hyd y nos; am hynny y Lefiaid oedd yn paratoi iddynt eu hunain, ac i’r offeiriaid meibion Aaron. 15A meibion Asaff y cantorion oedd yn eu sefyllfa, yn ôl gorchymyn Dafydd, ac Asaff, a Heman, a Jeduthun gweledydd y brenin; a’r porthorion ym mhob porth: ni chaent hwy ymado o’u gwasanaeth; canys eu brodyr y Lefiaid a baratoent iddynt hwy. 16Felly y paratowyd holl wasanaeth yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, i gynnal y Pasg, ac i offrymu poethoffrymau ar allor yr Arglwydd, yn ôl gorchymyn y brenin Joseia. 17A meibion Israel y rhai a gafwyd, a gynaliasant y Pasg yr amser hwnnw, a gŵyl y bara croyw, saith niwrnod. 18Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel, er dyddiau Samuel y proffwyd: ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel gyffelyb i’r Pasg a gynhaliodd Joseia, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a holl Jwda, a’r neb a gafwyd o Israel, a thrigolion Jerwsalem. 19Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn.
20Wedi hyn oll, pan baratoesai Joseia y tŷ, Necho brenin yr Aifft a ddaeth i fyny i ryfela yn erbyn Charcemis wrth Ewffrates: a Joseia a aeth allan yn ei erbyn ef. 21Yntau a anfonodd genhadau ato ef, gan ddywedyd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, O frenin Jwda? nid yn dy erbyn di y deuthum i heddiw, ond yn erbyn tŷ arall y mae fy rhyfel i; a Duw a archodd i mi frysio: paid di â Duw, yr hwn sydd gyda mi, fel na ddifetho efe dydi. 22Ond ni throai Joseia ei wyneb oddi wrtho ef, eithr newidiodd ei ddillad i ymladd yn ei erbyn ef, ac ni wrandawodd ar eiriau Necho o enau Duw, ond efe a ddaeth i ymladd i ddyffryn Megido. 23A’r saethyddion a saethasant at y brenin Joseia: a’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch fi ymaith, canys clwyfwyd fi yn dost. 24Felly ei weision a’i tynasant ef o’r cerbyd, ac a’i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo: dygasant ef hefyd i Jerwsalem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau. A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia.
25Jeremeia hefyd a alarnadodd am Joseia, a’r holl gantorion a’r cantoresau yn eu galarnadau a soniant am Joseia hyd heddiw, a hwy a’i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau. 26A’r rhan arall o hanes Joseia a’i ddaioni ef, yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd, 27A’i weithredoedd ef, cyntaf a diwethaf, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.
Dewis Presennol:
2 Cronicl 35: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.